Ymateb y Llywodraeth - Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Ymgyrchwyr Nad Ydynt yn Bleidiau (Etholiadau'r Senedd) 2025
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r pwyntiau adrodd ac yn darparu'r ymateb canlynol mewn perthynas â phob un o'r pwyntiau a godwyd:
Er bod Llywodraeth Cymru yn derbyn bod rhai mân anghysondebau o hyd, bernir nad yw'r rhain yn effeithio'n sylweddol ar y Cod.
Mae'r Comisiwn Etholiadol hefyd wedi cadarnhau nad yw'r pwyntiau a godwyd yn effeithio o gwbl ar effaith gyffredinol y Cod nac ar ei gymhwysiad. Ni fyddai'r mân anghysondebau a godwyd yn camarwain darllenwyr y Cod ac nid oes angen diffiniadau pellach.
Nid oes rheidrwydd ar y Comisiwn Etholiadol i ddrafftio yn unol â Drafftio Deddfau i Gymru a bydd yn drafftio mewn ffordd sy'n sicrhau cysondeb â dogfennau/canllawiau eraill a gynhyrchir ganddo.
Byddai diwygio'r Cod i ymdrin â'r mân anghysondebau yn golygu y byddai'n rhaid iddo gael ei dynnu'n ôl a'i ailosod am 40 diwrnod arall. Bernir y byddai unrhyw oedi pellach yn cael effaith er gwaeth ar randdeiliaid.
Prif amcan y Comisiwn Etholiadol yw i'r Codau ddod i rym cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw effaith bellach ar randdeiliaid, yn enwedig gan fod y Codau eisoes wedi'u gohirio y tu hwnt i ddechrau'r cyfnod rheoleiddiedig.
Fodd bynnag, bydd y mân anghysondebau a godwyd yn cael eu nodi, ac eir i'r afael â hwy pan fydd y cyfle nesaf yn codi.